Astudiaeth Achos


Astudiaeth Achos 1 - Hanes Carol

"R'wyf wedi bod yn dod i Mind Aberconwy ers deg blynedd. Nid wyf wedi cael toriad i lawr meddyliol yn union ond cefais gwaedlif ymennydd deuddeg blwyddyn yn ol pan oedd fy machgen bach yn bedair oed. R'wyf wedi gorfod derbyn fy methiant a'r iseldra sydd wedi dilyn gorfod gwynebu yr effaith o gael gwaedlif ymennydd. Mae rhannau o fy mywyd wedi bod yn ddigrif, mewn rhannau r'wyf wedi teimlo fel rhoi diwedd ar bob dim ond ers yr wyf wedi bod yn dod i Mind nid wyf yn teimlo felly cyn gymaint. Pan gychwynais yn Mind r'oeddwn yn crio, r'wyf ond yn cofio crio. Wedyn, fel bod amser yn mynd, dechreuais gymysgu mwy yn gweithgareddau Mind."

"Ymdrechaf i gymysgu a bob dim. R'wyf yn dod i'r grwpiau ysgrifennu'n greadigol, arlunio a'r grwp merched. R'wyf, hefyd, yn mynd i'r nosweithiau galw-i-fewn ar nos Iau a nos Sadwrn lle r'wyf yn ymuno gyda'r cwis a'r bingo. R'wyf yn aml iawn yn gwybod yr atebion yn y cwision sydd yn gwneud i mi deimlo yn dda yn fy hyn. R'wyf yn meddwl bod Mind yn ryfeddol. Mae wedi fy helpu ac achub fy mywyd tro ar ol tro. R'wyf yn hoff o fynd yno i gyfarfod gwahanol bobl ac os r'wyf yn medru helpu rhywyn mewn unrhyw ffordd ymdrechaf i wneud. Mae Mind wedi fy helpu i wneud ffrindiau ac mae mynd yno wedi gwneud i mi deimlo'n dda. R'wyf hefyd wedi dysgu llawer, mae wedi fy helpu i fod yn fwy goddefgar o eraill cyn gystal a rhoi fwy o hyder i mi. Mae Mind yn helpu fi i siarad am fy nheimladau."

yn ôl i'r top ^


Astudiaeth Achos 2 - Hanes Michael

"Cafwyd fy nghyflwyno i Mind trwy ffrind i mi, oedd yn eisioes yn aelod, gan fy mod yn dioddef o iseldra. R'oeddwn yn aros yn y ty ar ben fy hun ac nid oedd gennyf lawer o ffrindiau ac nid r'oeddwn yn medru gwneud ffrindiau yn hawdd."

"Mae Mind yn didaro iawn. Darganfais fod pobl yn fwy dealltwriaeth am eu bod wedi dioddef o'r un fath o broblemau. Mae pobl yn darganfod eu bod yn medru mynegi eu hunain yn mwy hawdd tu fewn i Mind oherwydd eu bod wedi cael problemau tebyg. Ni wnaethant procio hwyl arnaf. "

"Cymerodd ddau neu dri mis i mi dori'r rhew. Yna dechreuais i wneud ffrindiau, agorais allan ac nid oeddwn mor hunanymwybodol. Dechreuais cymeryd diddordeb yn rhediad Mind ac r'wyf yn awr yn ymgeisio am swydd fel swyddog o Mind. Dymunaf rhoi gobaith ac hyder i aelodau eraill o Mind a dangos iddynt os r'wyf fi yn medru gwella mae'n bosib i hwynt wneud hefyd."

yn ôl i'r top ^


Astudiaeth Achos 3 - Hanes Melissa

"Ar ol profiad brawychus dyfn yn fy mywyd dioddais yn ddrwg iawn gyda iseldra. Collais unrhyw hyder a datblygais ffobia siosaledd pan roeddwn yn methu mynd allan o'r ty."

"Awgrymwyd i mi i alw i fewn i Mind. Llwyddais o’r diwedd i fynd ar y bws ac ymweld a'r ganolfan. Cefais groeso ar unwaith gan yr aelodau a'r gwirfoddolwyr i gyd ac yn sydyn roeddwn yn teimlo yn rhan o'r lle."

"Cefais gefnogaeth a dealltwriaeth llawn oddiwrth pawb mewn ffordd ddi-farn llwyr ac yn araf dechreuais ail-ennill fy hyder ac ail-adeiladu fy mywyd. Cymysgais yn y grwpiau a dod yn wirfoddolwr a dechreuais fwynhau bob dim roeddwn wedi ei rhoi i fynnu."

yn ôl i'r top ^


Astudiaeth Achos 4 - Hanes Jonathan

"Cefais fy ngyflwyno i Mind pan oeddwn mewn cartref gofal Gristnogol gan ffrind oedd yn byw yn yr un lle. Fy argraff cyntaf o Mind oedd ei fod yn lle i ymlacio gyda esmwyth feinciau a'r awyrgylch a'r pobl yn gyfeillgar ac nid oeddynt yn edrych fel bod eisiau dim gennym ond i mi fod fy hun.

Gwnaethom ffrindiau a dod i adnabod ein gilydd heb y gemau sydd yn cael eu chwarae yn y stryd sifil, f.e. nid oeddynt yn malio os oedd gennych geiniog neu deg punt yn eich poced. Derbynnwyd chwi fel yr oeddych. Rhoddais hyn i lawr i'r ffaith bod y rhan fwyaf ohonynt dim wedi hwylio trwy bywyd a trwy hyn wedi sylweddoli i gael cydymdeimlad a pobl eraill yn ddiofal os oedd ganddynt broblemau neu ddim. Darganfais bod y gwirfoddolwyr yn calonogol iawn pan oeddych yn anelu am gol - ai am hunan- feddyginiaeth neu am gam fawr fel mynd yn ol i weithio fel person anabl.

Credaf oddiwrth pethau r'wyf wedi eu gweld, ac eu dweud, bod cred mewn gweld bod bywyd pobl yn newid trwy y cariad sydd yn cael ei ymddangos yn Mind, f.e. gan y gweithwyr a'r defnyddwyr. Yn bersonol buaswn ar goll os byddwn yn meddwl ni fuaswn yn medru gweld fy ffrindiau a'r pobl r'wyf wedi dod i adnabod a sydd yn annwyl i mi oherwydd, er bod pobl yn hoffi eu dirgelfa, maent hefyd yn hoffi eu caru fel y gan .... All you need is love."

yn ôl i'r top ^


Astudiaeth Achos 5 - Hanes Hilary

"Tua chwech blynedd yn ol, ar ol amser o iseldra, gwelais hysbysebiad am y ganolfan galw-i-fewn Mind Aberconwy. Penderfynais i alw i fewn (penderfyniad dewr i mi gan nad oeddwn yn adnabod neb) a cefais groeso mor gynnes buom yn mynychu grwp y defnyddwyr bob Dydd Mercher.

R'oedd grwp y defnyddwyr dim ond yn agored i'r pobl oedd wedi ei ddefnyddio neu yn defnyddio gwasanaeth iechyd meddwl. R'oedd hyn yn ddatguddiad i mi. R'oeddwn yn fedru siarad am fy mhroblemau a profiadau gyda pobl eraill oedd gyda'r un fath o hanesion . Hyn oedd fy mhrofiad cyntaf o Mind. Ennillais hyder yn fuan ar ol i mi ddechrau mynd i'r ganolfan mewn awyrgylch cyfeillgar a cael sgwrs bywiog gyda paned o de. Deallais yn fuan bod problemau iechyd meddwl yn fedru effeithio unrhyw un, ifanc neu hen, cyfoethog neu tlawd, ac o bob fath o alwedigaethau - meddygion, nyrsys, plymwrwyr, gweithwyr llaw, gwraig ty, myfyrrwyr, pawb. Ychydig misoedd wedyn gofynnwyd i mi os oeddwn awydd fod yn wirfoddolwr. R'oeddwn yn eisioes wedi gweld beth oedd y gwirfoddolwyr yn ei wneud yn Mind a penderfynais i rhoi cynnig arni. Cefais hyfforddiant ar wirfoddoli: cefais, yn wir, fy nhysgu sut i wrando, oherwydd yma i wrando ydym a dim i gynghori. R'wyf yn meddwl fy mod wedi ennill, trwy bod yn wirfoddolwr, dealltwriaeth i broblemau pobl eraill ac hefyd synnwyr digri. Nid yw i gyd yn tynged a digalondid ac mae pobl yn dweud wrthych pethau sydd wedi mynd yn anghywir ond maent yn dal i fod yno ac yn dweud wrthych amdano. R'wyf wedi dysgu goddegfar hefyd gan yr oeddwn wedi bod yn ddiamynedd.

Mae gan pawb rhyw fath o brofiad cefndir, dim o bwys mor fychan, maent yn medru dod i wirfoddoli. Cyn dod yma gweithiais yn Llundain yn personel am dair flwyddyn ar ddeg. Gweithiais gyda manylion gyfrinachol ac mae hyn yn werthfawr iawn yn Mind oherwydd mae pob dim sydd yn gael eu ddweud wrthym yn gyfrinachol. Cefais fy nghyflwyno i wirfoddoli yn araf deg. R'oeddwn ond yn gweithio hanner diwrnod yr wythnos pan oedd y plant yn fychan ond yn awr maent yn hyn r'wyf yno dau ddiwrnod yr wythnos ac mae hyn yn addas iawn gyda fy mywyd cartref.

Fel gwirfoddolwr r'wyf wedi bod ar rhai gwibdeithiau ac ar un ohonynt i'r Iwerddon. R'oedd tua dwsin ohonym. Cafwyd amser da iawn gan y gwirfoddolwyr a'r aelodau wrth fynd ar fws to agored o gwmpas Dilyn. Awgrymwyd rhywyn ni fuasai y daith yn gyflawn heb fynd i brofi Guinness hefyd! R'oedd yn ddiwrnod braf iawn. Buaswn yn cymeradwyo wirfoddoli yn y ganolfan i unrhyw un, mae wedi helpu fi yn fawr iawn, ond oedd galw i fewn yn y diwrnodau cyntaf yn unig o gymorth mawr i mi. Dewch ymlaen a darganfwch hyn dros eich hunan."

yn ôl i'r top ^


Astudiaeth Achos 6 - Hanes Angela

"R'oeddwn yn cymeryd diddordeb yn Ymgyrch Parch Mind Genedlaethol lle dysgais llawer mwy fel sut i fod yn fwy goddefgar o bobl eraill. Mae pawb sydd yn dod i Mind yn cael rhywbeth - cyfeillgarwch, cwmniaeth, gweithgareddau, yn fedru siarad yn rhwydd gyda'r gwirfoddolwyr a'i gilydd, hyder, a.y.b. Hwn yw fy farddoniaeth diweddar ysgrifenais mewn grwp ysgrifennu greadigol:-

The Eye of the Storm

The eye of the storm Says different things;
It could be peaceful,
it could be frantic,
It could be chaotic

This is like the eye
Of the leopard
The leopard when he runs As he runs as fast
As a storm comes

He tries to catch the storm He punches at it
And if he catches it
He lays down and sleeps.

Angela Ridapth

yn ôl i'r top ^